Public Health Wales statement on Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak
This statement will be updated daily at 2pm
Statement: Tuesday 1 December 2020 Dr Giri Shankar, Incident Director
for the Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak response at Public Health Wales,
said: “It
is now clear from the data that the Coronavirus cases are rising in most parts
of Wales, reversing the downward trend we had observed as a result of the fire
break. “The Welsh Government have “Pubs, restaurants, bars and cafes will need to
close at 6pm apart from takeaway services, and will not be able to serve
alcohol. “Indoor entertainment venues such as cinemas, bingo
halls, soft play centres and bowling alleys must close from the same date, as
must indoor visitor attractions such as museums, galleries and heritage sites. “Public Health Wales strongly urges everyone to
follow these rules, to avoid transmission of Coronavirus and to protect
everyone in our communities, including the most vulnerable. “Due to high numbers of positive cases in Torfaen,
Aneurin Bevan University Health Board is
opening a number of mobile COVID-19 testing units across Torfaen. The mobile units will provide a walk up
testing service for residents who live nearby from 9:30 until 15:30 on Monday
30 November and Tuesday 1 December. More locations across Torfaen and dates for
the next two weeks will be announced in the coming days. “Torfaen
residents who experience even mild symptoms of coronavirus – a fever,
continuous cough or loss of taste or smell – or feel generally unwell, should
call 0300 30 31 222 or visit https://www.gov.uk/get-coronavirus-test to book a test. “The festive period is important for people across
Wales who want to be with loved ones during the holidays, particularly after a
very difficult year, but we would remind everyone that we must each continue to take personal
responsibility to limit the spread of the virus and protect our loved ones,
particularly if they are vulnerable or extremely vulnerable. For
many, this will mean that it isn’t possible to celebrate Christmas in the way
you normally would. “Public
Health Wales is encouraging everyone who lives, works or studies in Merthyr
Tydfil to attend the mass testing service at the Leisure Centre as soon as they
can – even if they do not have symptoms. “Thank you
to those who have already attended and undertaken a test, as this will help us
to break the chains of transmission in the area. However, in order for the exercise to be as
successful as possible then we need as many people in the area as possible to
be tested. “For more
information about the testing exercise, visit the MTCBC website. “Anyone
aged 11+ without any symptoms can have a test, but children under 18 will need
parental consent. The more people who get tested, the more chances we have to
reduce the spread of the virus. “People with symptoms should also get
tested but need to book a test either by calling 119 or by clicking here. “We understand that people will want to do their
Christmas shopping at this time of year. We would suggest to try to visit shops
during off-peak times, to always maintain social distancing and to wear a face
covering if you can. Options such as ‘click and collect’ or online purchasing
may also be something to consider. “We ask the public to observe the regulations and
to limit their contact with other people as much as possible so that we all
work together to bring the numbers of positive cases down. “This means staying out of other people’s homes,
limiting the times and the numbers of people that you meet, maintaining social
distancing and hand hygiene, working from home if you can, and self-isolating
if you show symptoms of coronavirus or are asked to do so by contact tracers. “All of these actions will help to break the chains
of transmission, reduce the spread of the virus, and keep people safe. “Action has been taken following reports from
health authorities in Denmark that widespread outbreaks of Novel Coronavirus
(COVID-19) has been found in mink farms, with subsequent spread of a
mink-variant virus to the local community. “As a precautionary measure, Denmark was removed
from the UK Coronavirus travel corridor list on Friday 6 November. Any
travellers returning to the UK will now be required to self-isolate for 14 days
according to the national guidance and legislation https://www.gov.uk/uk-border-control/self-isolating-when-you-arrive. “We would also advise all members of the public
with pet mink or ferrets to avoid contact with them while symptomatic with any
COVID symptoms. “We recognise that many people may be finding life
more challenging, resulting in difficulties with mental health. There are many
agencies which provide help and support, including the C.A.L.L. helpline on
0800 132 737, which will refer callers to the most appropriate organisation
according to their needs. “If you are in severe mental distress or are having
suicidal thoughts, please contact Samaritans Cymru free on 116 123. You can also
find sources of advice and guidance on our website if you need some help
or are worried about a loved one. “NHS Wales is still here to help you if you need
care, and it’s important you continue to attend appointments and seek help for
urgent medical issues. You should phone beforehand and follow any guidance your
local surgery, dentist, optometrist or health service has put in place to
protect you and staff, including the need to keep 2m away from other patients. “If you or a member of your household develop
symptoms of the Coronavirus, such as a cough, fever or change in sense of taste
or smell, you must self-isolate immediately and book a free Coronavirus test at
www.gov.uk/get-coronavirus-test or by calling 119. “Helpful advice and support is available via the
NHS COVID-19 app. As well as providing alerts if you have been in contact
with someone with Coronavirus, the app will also tell you the current risk level in your area.
“Information about the symptoms of Coronavirus is
available on the Public Health Wales website, or via the NHS 111 Wales symptom
checker. Datganiad: Dydd Mawrth 1 Rhagfyr 2020 Dywedodd
Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr
ymateb i'r achos o'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Erbyn hyn, mae’r data yn ei gwneud hi’n amlwg bod achosion o’r
Coronafeirws ar gynnydd yn y rhan fwyaf o Gymru, gan wyrdroi’r duedd i’r
ffigurau ostwng yr oeddem wedi’i gweld o ganlyniad i’r cyfnod atal dros dro. “Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cyfyngiadau ar gyfer y sector
lletygarwch o ddydd Gwener 4 Rhagfyr cyn cyfnod y Nadolig, er mwyn lleihau’r
cyfleoedd i’r feirws ledaenu yn ein cymunedau ac i gadw pobl yn ddiogel. “Bydd angen i dafarndai, bwytai, bariau a chaffis gau am 6pm ar wahân i
wasanaethau tecawê, ac ni fyddant yn gallu gweini alcohol. “Rhaid i leoliadau adloniant dan do fel sinemâu, neuaddau bingo,
canolfannau chwarae meddal ac alïau bowlio gau o'r un dyddiad, yn yr un modd ag
atyniadau ymwelwyr dan do fel amgueddfeydd, orielau a safleoedd treftadaeth. “Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pawb yn gryf i ddilyn y rheolau
hyn, i osgoi trosglwyddo Coronafeirws ac i ddiogelu pawb yn ein cymunedau, gan
gynnwys y rhai mwyaf agored i niwed. “Oherwydd niferoedd uchel o achosion positif yn Nhorfaen, mae Bwrdd
Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn agor nifer o unedau profi COVID-19 symudol ledled Torfaen. Bydd yr unedau symudol yn darparu gwasanaeth
profi cerdded i mewn i breswylwyr sy'n byw gerllaw rhwng 9:30 a 15:30 ar ddydd
Llun 30 Tachwedd a dydd Mawrth 1 Rhagfyr. Cyhoeddir rhagor o leoliadau ar draws
Torfaen a dyddiadau ar gyfer y pythefnos nesaf yn ystod y dyddiau i ddod. “Dylai trigolion Torfaen,
hyd yn oed os ydynt yn profi symptomau ysgafn coronafeirws - twymyn, peswch
parhaus neu golli synnwyr blasu neu arogli - neu sy’n teimlo’n sâl yn
gyffredinol, ffonio 0300 30 31 222 neu dylent ymweld ag https://www.gov.uk/get-coronavirus-test i archebu prawf. “Mae cyfnod y Nadolig yn bwysig i bobl ledled Cymru sydd eisiau treulio
amser gyda’u hanwyliaid yn ystod y gwyliau, yn enwedig ar ôl blwyddyn anodd
iawn, ond byddem yn atgoffa pawb bod yn rhaid i bob un ohonom barhau i gymryd
cyfrifoldeb personol i gyfyngu ar ledaeniad y feirws ac i amddiffyn ein
hanwyliaid, yn enwedig os ydyn nhw'n agored i niwed neu'n eithriadol o agored i
niwed. I lawer o bobl, bydd hyn yn
golygu nad yw’n bosibl dathlu’r Nadolig yn y ffordd y byddech chi fel arfer yn
ei wneud. “Mae Iechyd
Cyhoeddus Cymru yn annog pawb sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio ym Merthyr
Tudful i fynychu’r gwasanaeth profi torfol yn y ganolfan hamdden cyn gynted ag
y gallant - hyd yn oed os nad oes symptomau ganddynt. “Diolch i’r rhai
sydd eisoes wedi mynychu ac wedi cael prawf. Bydd hyn yn ein helpu i dorri’r
cadwyni trosglwyddo yn yr ardal. Fodd
bynnag, er mwyn i'r ymarfer fod mor llwyddiannus â phosibl, mae angen i ni
brofi cynifer o bobl yr ardal â phosib. “I gael rhagor o wybodaeth am yr ymarfer profi, ewch i wefan
MTCBC. “Gall unrhyw un dros 11 oed sydd heb unrhyw symptomau gael prawf, ond
bydd angen caniatâd rhiant ar blant dan 18 oed. Po fwyaf o bobl sy'n cael eu
profi, po fwyaf y siawns sydd gennym o leihau lledaeniad y feirws. “Gall pobl sydd â symptomau gael
eu profi hefyd, ond bydd angen iddynt archebu prawf naill ai drwy ffonio 119
neu drwy
glicio yma. “Rydym yn deall y bydd pobl eisiau gwneud eu siopa Nadolig yr adeg hon
o’r flwyddyn. Byddem yn awgrymu ceisio ymweld â siopau yn ystod amseroedd y tu
allan i'r oriau brig, cadw pellter cymdeithasol bob amser a gwisgo gorchudd
wyneb, os gallwch chi. Efallai y bydd opsiynau megis ‘clicio a chasglu’ neu
brynu ar-lein hefyd yn bethau i’w hystyried. “Gofynnwn i’r cyhoedd gadw at y rheoliadau a chyfyngu ar eu cyswllt â
phobl eraill gymaint â phosibl fel ein bod i gyd yn gweithio gyda’n gilydd i
leihau nifer yr achosion positif. “Mae hyn yn golygu aros allan o gartrefi pobl eraill, cyfyngu ar faint o
weithiau a nifer y bobl rydych chi'n cwrdd â nhw, cynnal pellter cymdeithasol a
hylendid dwylo, gweithio gartref os gallwch chi, a hunanynysu os oes gennych
chi symptomau coronafeirws, neu os gofynnir i chi wneud hynny gan swyddogion
olrhain cysylltiadau. “Bydd yr holl gamau hyn yn helpu i dorri cadwyni trosglwyddo, yn lleihau
lledaeniad y feirws, ac yn cadw pobl yn ddiogel. “Cymerwyd camau yn dilyn adroddiadau gan awdurdodau iechyd yn Nenmarc y
canfuwyd brigiadau eang o achosion o Coronafeirws Newydd (COVID-19) mewn
ffermydd minc, a bod feirws amrywiolyn minc yn cael ei ledaenu i'r gymuned leol
yn sgil hynny. “Fel mesur rhagofalus, tynnwyd Denmarc oddi ar restr coridor teithio
Coronafeirws y DU ddydd Gwener 6 Tachwedd. Bellach, bydd gofyn i unrhyw
deithwyr sy'n dychwelyd i'r DU hunanynysu am 14 diwrnod yn unol â’r canllawiau
a'r ddeddfwriaeth genedlaethol https://www.gov.uk/uk-border-control/self-isolating-when-you-arrive. “Byddem hefyd yn cynghori pob aelod o’r cyhoedd sy’n cadw mincod neu
ffuredau fel anifeiliaid anwes i osgoi dod i gysylltiad â nhw tra bod ganddynt
unrhyw symptomau COVID. “Rydym yn cydnabod y gallai llawer o bobl fod yn cael bywyd yn fwy
heriol, a all arwain at anawsterau iechyd meddwl. Mae llawer o asiantaethau
sy'n darparu help a chymorth, gan gynnwys
llinell gymorth C.A.L.L. ar 0800 132 737, a fydd yn cyfeirio galwyr at y
sefydliad mwyaf priodol yn unol â'u hanghenion. “Os ydych chi’n wynebu trallod meddwl difrifol, neu os ydych yn meddwl
am gyflawni hunanladdiad, cysylltwch â Samariaid Cymru yn rhad ac am ddim ar
116 123. Os oes angen rhywfaint o help arnoch, neu os ydych chi'n poeni am
anwyliaid, gallwch ddod o hyd i ffynonellau cyngor ac arweiniad hefyd ar ein gwefan. “Mae GIG Cymru yma o hyd i'ch helpu os oes angen gofal arnoch, ac mae'n
bwysig i chi barhau i fynychu apwyntiadau a cheisio cymorth ar gyfer materion
meddygol brys. Dylech ffonio ymlaen llaw a dilyn unrhyw ganllawiau mae eich
practis meddyg teulu lleol, deintydd, optometrydd neu wasanaeth iechyd wedi'i
roi ar waith i'ch diogelu chi a staff, gan gynnwys yr angen i gadw 2m i ffwrdd
oddi wrth gleifion eraill. “Os byddwch chi neu aelod o'ch aelwyd yn datblygu symptomau
Coronafeirws, fel peswch, twymyn neu newid i synnwyr blasu neu arogli, rhaid i
chi hunanynysu ar unwaith ac archebu prawf Coronafeirws am ddim yn www.gov.uk/get-coronavirus-test neu drwy ffonio 119. “Mae cyngor a chymorth defnyddiol ar gael trwy ap COVID-19 y GIG.
Yn ogystal â darparu rhybuddion os ydych wedi bod mewn cysylltiad â rhywun â
Coronafeirws, bydd yr ap hefyd yn dweud
wrthych beth yw lefel gyfredol y risg yn eich ardal.
“Mae gwybodaeth am symptomau Coronafeirws ar gael ar wefan Iechyd
Cyhoeddus Cymru, neu drwy wiriwr symptomau GIG 111 Cymru.today introduced
restrictions for the hospitality sector from Friday 6 December ahead of
Christmas period, in order to reduce the opportunities for the virus to spread
in our communities and to keep people safe.“We would remind
everyone that Coronavirus is still active in our communities, and therefore
this does not mean a return to normality.